Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Mai 2018
Amser:
08.30 -
08.41
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Dai Lloyd AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Siân Wilkins (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Anfonodd Rhun ap Iorwerth ei ymddiheuriadau; Roedd Dai Lloyd yn bresennol fel dirprwy.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 20 Mehefin 2018 -
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Dadl gan Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) (Cymru) at y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ymgynghori ar amserlen ar gyfer Cyfnod 1 a Chyfnod 2.
· Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai angen parhau i adolygu amseru Cyfnod 3, yn sgil canlyniadau Cyfnodau 1 a 2, gan eu bod yn digwydd bob ochr i doriad y Nadolig.
Nododd Rheolwyr Busnes y papur, ac y byddai'n rhaid i unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ddigwydd ar ôl i ddarpariaethau perthnasol yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ddod i rym. Dywedodd Arweinydd y Tŷ fod y Llywodraeth wedi derbyn y dylai statws argymhellion pwyllgor sifftio'r Cynulliad fod yn gyson ag argymhellion pwyllgorau San Steffan.